Cwblhaodd Jac Bryant, 23 o Barri, Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3 yn 2016 gyda Sgil Cymru. Wrth gwblhau ei brentisiaeth gweithiodd Jac fel Prentis Dylunio Graffeg Iau i Orchard Media and Events Group yng Nghaerdydd.
Cyn y brentisiaeth roedd Jac yn astudio Dylunio a Chelf yn yr Academi Celfyddydau Caerdydd. Wrth astudio daeth Jac o hyd i’r cyfleoedd prentisiaeth ac ar ôl bach o ymchwil fe benderfynodd Jac fynychu diwrnod agored lle cafodd e’r siawns i ddysgu mwy am y cyfleoedd gan hefyd wrando ar straeon cyn prentisiaid.
Dwedodd Jac:
Roeddwn i’n gwybod mod i ddim eisiau colli allan ar gyfle fel hyn.
Fel rhan o’i waith fel prentis roedd Jac yn dylunio posteri, hysbysebion a fideos i hyrwyddo’r ystod eang o ddigwyddiadau roedd Orchard yn rheoli.
Dwedodd Jac:
Wrth weithio i Orchard rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar brosiectau i gleientiaid yn cynnwys UEFA, FAW, Airbus, S4C ac amrywiaeth o artistiaid yn cynnwys Noel Gallagher ac Elton John.
Ni ddoth y brentisiaeth heb ei drafferthion i Jac. Roedd y sialens o ddysgu’r prosesau a thechnegau yn dasg fawr ond gyda help gan ei dîm wnaeth Jac dechrau rhagori.
Yn dilyn ei brentisiaeth fe gafodd Jac swydd llawn amser gyda Orchard oherwydd ei angerdd parhaol a’i waith caled. Ac ers hynny mae Jac wedi parhau i weithio o fewn tîm dylunio Orchard, fel Dylunydd Iau. Gyda’r sgiliau a ddysgwyd ar y brentisiaeth mae Jac yn edrych ymlaen at gynyddu o fewn ei rôl gyda Orchard.
Dwedodd Jac:
Rwy’n teimlo fy mod i wedi tyfu i fod yn berson mwy galluog, cymwys a hyderus o ganlyniad i’r brentisiaeth.
Os, fel Jac, rydych chi’n edrych am eich cam nesaf, cliciwch yma i arwyddo lan i dderbyn ein cylchlythyr prentisiaethau sy’n cwmpasu ein holl swyddi gwag ar gyfer newydd ddyfodiaid ar gynlluniau prentisiaeth.