Dechreuodd Liam Bevan ei brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3 nôl yn 2013. Gweithiodd Liam, 23 o Abercynon, fel Prentis Ôl Gynhyrchu i BBC Cymru Wales ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd.
Wrth iddo orffen astudio am ei lefelau A roedd Liam yn edrych am y cam nesaf yn ei fywyd. Fel pawb arall oedran Liam roedd yna dri dewis: prifysgol, prentisiaeth neu weithio mewn swydd arferol.
Dwedodd Liam:
Ar ôl gwneud llawer o ymchwil mewn i astudio cyfryngau mewn gwahanol brifysgolion roedd prentisiaeth yn sefyll allan fel y penderfyniad gorau. Roedd y brentisiaeth yn rhoi siawns i gael profiadau ymarferol gyda meddalwedd o safon y diwydiant mewn gweithle proffesiynol. Allwch chi ddim dysgu hynny ar yr un lefel unrhyw le arall. Roedd fy mhenderfyniad yn un amlwg.
Cafodd Liam amryw o gyfleoedd o fewn yr adran Ôl Gynhyrchu wrth gwblhau ei brentisiaeth. Dechreuodd e yn yr Ystafell Lwytho yn llwytho yr hyn oedd yn dod drwy’r drws gan gynnwys ‘rushes’ rhaglen ddogfen drosedd, elfennau ar gyfer The One Show ac archif ar gyfer chwaraeon. Fe ddysgodd cyd-weithwyr Liam iddo fedru delio ag unrhyw beth oedd yn dod drwy’r drws.
Dwedodd Liam:
Ar ol hynny symudais Pobol Y Cwm i weld sut oedd cyfres sefydlogedig yn perfformio, a dyna lle wnes i ragori. Cefais y siawns i dderbyn hyfforddiant gyda llif gwaith cyson megis chwarae rhaglenni i dap i’w golygu, cofnodi cerddoriaeth, llwytho ‘rushes’ o leoliad a’u cael yn barod ar gyfer eu golygu. Cefais lawer o siawns hefyd i geisio bras olygu golygfeydd ar fy mhen fy hun, ac wedyn i gael adborth gan y Bras Olygydd!
Doedd y brentisiaeth ddim heb ei drafferthion i Liam. Heb brofiad o weithio ar y meddalwedd o fewn yr Ystafell Llwytho roedd gan Liam lawer i ddysgu gan gynnwys y gwahanol fformatau o Avid a’r terminoleg i gyd. Gyda’i frwdfrydedd a help ei gydweithwyr dysgodd Liam pob dim am y meddalwedd a phrosesau’r adran ôl-gynhyrchu.
Dwedodd Liam:
Ar ôl y prentisiaeth wnes i edrych am waith heb unrhyw lwc. Ar ôl 7 mis o ymchwilio roeddwn i ar fin edrych am yrfa newydd, ond wedyn clywais i oddi wrth y tîm yn Sgil Cymru bod rhywun yn edrych am Gynhyrchydd Cynorthwyol ar gyfer ei ddarllediad rygbi ar S4C. Ar y dechrau roeddwn i’n nerfus wrth feddwl am y rôl oherwydd roeddwn i’n dod o gefndir ôl-gynhyrchu heb wybod lot am rygbi chwaith. Wnes i gwrdd â nhw am baned i drafod y rôl ac wedyn dechreuais i dreial tri mis gyda nhw yn Sunset+Vine Cymru.
Tair blynedd yn ddiweddaraf mae fy CV wedi ehangu, dwi’n golygu agoriadau a nodweddion ar gyfer y rhan fwyaf o’r gemau rygbi yn y Principality Premiership a’r National Cup yn ogystal ag uchafbwyntiau o raglenni megis Tour de France, taith y Lions 2017, the Top 14 a’r European Rugby Champions Cup ar S4C. Rwyf hefyd wedi cael y siawns i deithio i gemau Cymru i gyd gan gynnwys y Rugby World Cup yn 2015 a Lyon ar gyfer yr European Cup Final. Ar ben hyn i gyd rwyf yn gweithio i Tinopolis fel Golygydd Llawrydd.
Os, fel Liam, rydych chi’n edrych am eich cam nesaf, cliciwch yma i arwyddo lan i dderbyn ein cylchlythyr prentisiaethau sy’n cwmpasu ein holl swyddi gwag ar gyfer newydd ddyfodiaid ar gynlluniau prentisiaeth.