Yn 2015 dechreuodd Ellis Clark, 22 o Frynmawr, Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol. Wrth gwblhau ei brentisiaeth roedd Ellis yn gweithio fel Prentis Golygydd Crefft i ITV Cymru Wales.
Cyn y brentisiaeth roedd Ellis yn gweithio fel Golygydd Fideo i Radio BRfm. Fel rhan o’i rôl roedd Ellis yn cynhyrchu a golygu fideos cerddoriaeth a digwyddiadau yn ogystal â gwaith sain a gwaith cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl gorffen gyda BRfm roedd Ellis yn awyddus i barhau gyda’i yrfa o fewn y diwydiannau creadigol, ac ar ôl ymchwilio fe welodd Ellis y cyfleoedd prentisiaeth ac fe benderfynodd ymgeisio.
Dwedodd Ellis:
Roeddwn i eisiau dilyn gyrfa o fewn y diwydiant cyfryngau ac roeddwn i’n gwybod bod prentisiaeth yn ffordd dda i ddechrau.
O ddydd i ddydd, fel Prentis Golygydd Crefft, roedd Ellis yn golygu fideos, trwy ddefnyddio meddalwedd Avid, a chreu graffeg. Yn ogystal â hyn gwnaeth Ellis greu promos ar gyfer sioeau gwahanol oedd yn cael eu dangos ar ITV Cymru Wales. Un o uchafbwyntiau Ellis oedd golygu fideos ar gyfer darllediadau byw ac uchafbwyntiau’r Rugby World Cup yn 2015.
Dwedodd Ellis:
Wrth weithio fel prentis wnes i fod yn rhan ar amryw o brosiectau gan gynnwys Wales at Six, Reels on Wheels a Welsh Politician of the Year.
Yn dilyn ei brentisiaeth fe gafodd Ellis swydd llawn amser yn gweithio fel Arbenigwr Cynhyrchu i ITV Cymru Wales, ac mae wedi parhau i weithio iddyn nhw ers hynny.
Dwedodd Ellis:
Mae fy swydd fel Arbenigwr Cynhyrchu yn newid pob dydd. Un diwrnod gallai fod yn gwneud sain ar gyfer y newyddion a’r diwrnod wedyn dwi’n cyfarwyddo. Mae’r swydd yn amrywio o ddydd i ddydd sy’n gwneud y rôl yn un diddorol a digonol.
Yn 2016 fe enillodd Ellis wobr ‘Arbenigwr Cynhyrchu’r Flwyddyn’ mewn seremoni wobrau mewnol ITV. Dewiswyd Ellis fel yr enillydd o’r Deyrnas Unedig i gyd.
Dwedodd Ellis:
Roedd y brentisiaeth wedi fy helpu i ddechrau gyrfa o fewn y diwydiant cyfryngau. Heb y brentisiaeth ni fyddwn i le ydw i ar hyn o bryd.
Os, fel Ellis, rydych chi’n edrych am eich cam nesaf, cliciwch yma i arwyddo lan i dderbyn ein cylchlythyr prentisiaethau sy’n cwmpasu ein holl swyddi gwag ar gyfer newydd ddyfodiaid ar gynlluniau prentisiaeth.