Nadolig Cynnar i Brentisiaid Creadigol Sgil Cymru

Siôn Corn yn dod a’r tystysgrifau yn fuan i’r trydydd ‘Dathliad’ Sgil Cymru, y darparwr hyfforddiant i’r cyfryngau yng Nghymru.

Mae’r ‘Dathliad’ yn siawns i gydnabod llwyddiant hyfforddiant Sgil Cymru wrth roi siawns i weithwyr proffesiynol y diwydiant i rwydweithio.

Noddwyd y noson gan Wales Screen/Sgrîn Cymru, Locket TV & Film Transport, a Creative Risk Solutions, gyda’r gwesteion yn cynnwys cyn-fynychwyr cyrsiau blaenorol Sgil Cymru, prentisiaid a gweithwyr professiynol y diwydiant sy’n gweithio o fewn Cymru ag ar draws y DU.

Mae Sgil Cymru yn dathlu’r llwyddiant o 15 prentis creadigol yn pasio eu fframweithiau gyda 14 allan o’r 15 ohonynt yn parhau i weithio o fewn y diwydiannau creadigol i gyflogwyr fel BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac Amplified Business Content.

Uchafbwynt y noson oedd gwobr a rhoddwyd gan Creative Risk Solutions sydd yn cydnabod cyflawniadau cyn-brentis. Mae’r rhai sy’n derbyn y wobr yn cael eu hystyried yn ysbrydoliaeth i brentisiaid y dyfodol. Cyflwynwyd y wobr o £250 eleni i Ffion Taylor.

Gweithiodd Ffion fel Prentis Rhedwr i Green Bay Media (nawr yn rhan o Flame Productions) lle treuliodd hi flwyddyn yn gweithio ar raglenni plant a rhaglenni ffeithiol. Ar ôl iddi hi gwblhau ei phrentisiaeth yn 2015 parhaodd hi i weithio i Green Bay Media am 10 mis fel Ymchwilydd. Ers hynny mae hi wedi gweithio mewn adrannau cynhyrchu ar-lein a chorfforaethol, hyfforddiant cyfryngau, animeiddio ac am y flwyddyn ddiwethaf mae hi wedi bod yn llawrydd yn gweithio ar gynyrchiadau megis Poldark, a ffilm ddiweddaraf Renée Zellweger, Judy.

Mae Sgil Cymru wedi sefydlu ei hun fel yr hyfforddwr mwyaf blaenllaw i’r cyfryngau gyda’i gwahanol raglenni. Maent yn amrywio o brentisiaeth i newydd ddyfodiaid i gyrsiau ar gyfer Arolygwyr Sgript a Rheolwyr Cynhyrchu o fewn y diwydiant ffilm. Mae 2019 yn mynd i fod yn flwyddyn brysur i dîm Sgil Cymru gyda chwrs Rheolwyr Lleoliadau ym mis Ionawr a ariennir gan ScreenSkills a’r rhaglen Camu Fyny ar gyfer criw Drama Teledu o safon uchel a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ScreenSkills yn dychwelyd am flwyddyn arall.

Trwy Sgil Cymru (sydd wedi ei is-gontractio i Goleg Caerdydd a’r Fro) mae’r prentisiaethau Cyfryngau Creadigol a Digidol yn rhoi cyfleoedd ar lefel newydd-ddyfodiaid i bobl sydd am ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol gydag amrywiaeth o swyddi gan gynnwys Gwisgoedd i Gamera, Marchnata i Amlgyfrwng, Castio i Adeiladu set a phopeth rhyngddynt.

Dwedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:

Rydym yn hapus i weld bod ein Dathliad wedi sefydlu ei hun yn nyddiadur y diwydiant, a dwi’n hynod o falch gweld llawer o wynebau cyfarwydd, o gyn prentisiaid i gydweithwyr proffesiynol y diwydiant yma heno. Maent yn ein hatgoffa o’r pwysigrwydd o ddatblygu llwybrau i fewn i’r diwydiant cyffrous yma.

Diolch unwaith eto i’n noddwyr Wales Screen/Sgrin Cymru, Lockett TV & Film Transport ac i’n gwesteion Pinewood Studio Cymru a Llywodraeth Cymru. Diolch arbennig i Creative Risk Solutions am eu cefnogaeth hael o’r wobr arbennig.

Rydym yn falch o fod yn cychwyn ar ein pedwaredd flwyddyn o hyfforddi o’n canolfan yn Pinewood Studio Cymru.