Yn ystod y pandemig, fe ddechreuon ni podlediad i ddal i fyny gyda gyn-brentisiad Sgil Cymru. Cawsom nifer o sgyrsiau diddorol dros ben – ac rydym yn hapus iawn i gyhoeddi y bydd y podlediad yn ôl gydag enw newydd o ddydd Llun y 3ydd o Orffennaf ymlaen – POD Y PRENTIS!
Bydd pennod newydd o’r podlediad yn dod allan ar ddydd Llun cyntaf bob mis ac mae’r gyfres yma yn cael ei gyflwyno gan Lisa Jarman.
Ymunwch gyda ni ddydd Llun am sgwrs gydag ein gwestai cyntaf – Eva Runciman, sydd bellach yn gweithio gyda BBC Radio Shetland.
Gallwch chi wrando ar y pennodau o’r gyfres wreiddiol isod, neu ar ein tudalen YouTube yma.