Roedd 2020 yn flwyddyn heriol i lansio ein cynllun arloesol newydd, a dweud y lleiaf! Er gwaetha’r pandemig, fe lwyddon ni i ddod o hyd i leoliad gwaith i’n tri phrentis gyda Urban Myth, oedd ar fin dechrau ffilmio War of the Worlds II yn Ne-ddwyrain Cymru.
Cafodd y prentisiaid eu taflu mewn i’r cynhyrchiad yn syth, gyda Tom a Josh yn gweithio yn yr adrannau AD a Cynhyrchu, a Jake yn yr adran Celf / Props.
Pedair mis yn ddiweddarach, ac mae’r tri phrentis wedi profi eu bod yn rhan annatod o’r tîm cynhyrchu – i’r graddau bod Josh wedi cael cynnig swydd amser llawn gyda Urban Myth fel Rhedwr yn 2021, tra bod Tom a Jake yn bŷr debyg o weithio ar eu cynhyrchiad nesaf. Mae’r tri bellach ar leoliad gyda Vox ar eu cynhyrchiad drama newydd ar gyfer S4C.
Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw – ond beth wnaeth y prentisiaid eu hunain o’u profiad cyntaf yn y diwydiant ffilm a theledu?
Tom May
Beth oeddet ti’n gwneud cyn y brentisiaeth?
Cyn fy mhrentisiaeth o’n i’n gosod ystafelloedd ymolchi gyda fy Nhad, tra’n ceisio dod o hyd i swydd, profiad neu brentisiaeth yn y cyfryngau.
Beth oedd yn apelio am wneud Prentisiaeth ar y Cyd?
O’n i eisiau gweld sut brofiad oedd hi i weithio ar gynhyrchiad mawr, er mwyn deall rôl rhedwr yn well.
Beth oedd dy rôl ar dy leoliad cyntaf?
Rhedwr / AD
Beth oedd dy waith o ddydd i ddydd?
Pan nes i ddechre yn y swydd, fy mhrif rôl yn y bore oedd paratoi’r bwrdd te ger y set, a neud yn siŵr nad oedd neb yn amharu ar y ffilmio pan oedd y cyfarwyddwr yn saethu.
Wrth i mi ennill mwy o brofiad fodd bynnag, cefais fwy o gyfrifoldeb, gan gynnwys:
- nôl brecwast i’r cast a’u hebrwng drwy gwisgoedd a cholur
- hebrwng Actorion Cynorthwyol drwy gwisgoedd a cholur
- cael artistiaid yn barod ar gyfer golygfa
- bob yn barod i wirio gwisgoedd/colur wrth i’r cast gamu ar y set
- cyfarfod y cast wrth iddyn nhw gyrraedd y set
- trefnu cludiant ar gyfer cast a chriw
Beth nes di fwynhau fwya’?
Rhan orau’r swydd i mi oedd cyfathrebu ag aelodau eraill y tîm AD er mwyn trefnu’r saethu.
Beth sydd wedi bod yn heriol?
I ddechrau, roedd yn anodd deall etiquette radio, ond unwaith i mi glywed ymadroddion yn rheolaidd, dechreuais eu deall.
Dwi’n credu mai’r rhan fwyaf heriol oedd bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn, a bod mor ddefnyddiol â phosib. Mae sylweddoli faint o amser mae’n cymryd i gyflawni tasg a pha newidiadau sy’n effeithio ar yr amser hwnnw yn allweddol – er fy mod yn dal i gael fy nal allan bob hyn a hyn gan feddwl bod gen i fwy o amser nag sydd gen i mewn gwirionedd!
Pa un peth allweddol wyt ti wedi’i ddysgu?
Y peth allweddol dwi wedi’i ddysgu fel Rhedwr ar y brentisiaeth hon, yw nad oes y fath beth â gormod o wybodaeth. Os ydych chi’n credu y dylech chi rannu rhywfaint o wybodaeth a roddwyd i chi, neu os oes gennych ymholiad, mae’n well gofyn er mwyn osgoi cymaint o gamgymeriadau â phosib.
Wyt ti’n meddwl bod ti wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Yn bendant! Ar ddechrau’r brentisiaeth hon ‘doedd gen i ddim dealltwriaeth iawn o sut oedd drama deledu yn cael ei chynhyrchu, na beth oedd rôl Rhedwr o fewn y system honno. Nawr rwy’n teimlo bod gen i ddealltwriaeth well o lawer.
A yw gwneud y brentisiaeth wedi newid dy farn am yr hyn wyt ti am wneud yn dy yrfa yn y dyfodol?
Nid yw’r brentisiaeth wedi newid fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol – mewn gwirionedd fy nòd ar hyd yr amser oedd dod yn rhedwr ar ddramâu. Os rhywbeth, mae’r brentisiaeth wedi cadarnhau hyn, gan fy mod bellach yn gwybod mod i’n mwynhau’r gwaith, yn hytrach na gorfod dyfalu sut beth fyddai e i fod yn rhedwr.
Jake Hatcher
Beth oeddet ti’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn fy mhrentisiaeth, o’n i’n gwneud Lefel A Dylunio Cynnyrch a Drama yn Ysgol Stanwell. Gwnaeth fy nghefndir creadigol fy ysbrydoli i fod eisiau gweithio yn y diwydiant creadigol. Cymerais 6 mis allan, gan ennill rhywfaint o brofiad gwaith, gan gynnwys gweithio fel Actor Cynorthwyol, er mwyn rhoi cipolwg i mi ar sut brofiad oedd bod ar set, cyn dechrau fy mhrentisiaeth.
Beth oedd yn apelio am wneud Prentisiaeth ar y Cyd?
Y rheswm i mi ddewis gwneud Prentisiaeth ar y Cyd oedd er mwyn manteisio ar y cyfle i gwrdd â llawer o wahanol bobl a rhwydweithio i ehangu fy nghysylltiadau.
Beth oedd dy rôl ar dy leoliad cyntaf?
Dechreuais fy lleoliad gwaith cyntaf yn gwisgo setiau yn y stiwdio ac ar leoliad. Fe wnes i fwynhau’r gwaith, ond roeddwn i’n gwybod mod i am roi cynnig ar y rolau eraill yn yr adran Props. Felly, ar gyfer ail hanner y swydd bûm yn gweithio gyda’r tîm propiau wrth law.
Beth oedd dy waith o ddydd i ddydd?
Roeddwn i’n gwneud ystod eang o dasgau, oedd yn hollol wahanol bob dydd. Roedd fy ngwaith yn amrywio o roi propiau wrth law i’r Actorion Cynorthwyol, i roi cyrff ffug yn yr afon Tafwys. A dyna dwi’n ei garu am y swydd – chi’n dechrau bob dydd gyda llechen lân, a ma’ bob tro rhywbeth newydd yn digwydd.
Beth nes di ei fwynhau fwya’?
Nes i fwynhau mynd i Lundain a ffilmio ar leoliad yn gyffredinol, a chael mynediad i leoedd na fyddwn fel arfer yn dod ar eu traws.
Beth sydd wedi bod yn heriol?
Bu’n rhaid i mi ddysgu strategaethau fel gwybod pryd i flaenoriaethu swyddi yn nhrefn eu pwysigrwydd a sicrhau bod un dasg yn cael ei chwblhau cyn symud at rywbeth newydd. Her arall dwi wedi’i hwynebu yw’r diwrnodau gwaith hir, ond rydw i bellach wedi dod i arfer â hyn!
Pa un peth allweddol wyt ti wedi ei ddysgu?
Dwi wedi dysgu cael ffydd yn fy hun, a bod yn garedig a dymunol i’r bobl o’ch cwmpas bob amser. Dwi wedi darganfod, trwy gyd-dynnu â phobl, rydych yn cael
enw da fel rhywun braf i weithio gyda nhw. Mae hyn yn rhoi hwb i’ch siawns o gael eich ystyried ar gyfer swyddi eraill yn y dyfodol.
Wyt ti’n meddwl dy fod wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Dwi’n credu fy mod i wedi aeddfedu llawer ers i mi ddechrau’r brentisiaeth hon. Mae wedi gwneud i mi feddwl mwy am y dyfodol a dwi wedi dysgu fod angen aberthu rhai pethau weithiau, fel canslo cynlluniau personol oherwydd newidiadau i’r amserlen, er enghraifft.
A yw gwneud y brentisiaeth wedi newid dy farn am yr hyn wyt ti am ei wneud yn dy yrfa yn y dyfodol?
Heb amheuaeth! Mae gwneud y brentisiaeth hon wedi rhoi cyfle gwych i mi ddechrau ar yrfa newydd. Ar ôl siarad â llawer o bobl ar y cynhyrchiad, gwnaeth i mi sylweddoli pa mor lwcus ydw i, i fod ar y cynllun ac i fod yn cychwyn ar yr yrfa hon, a minnau mor ifanc.
Josh Legge
Beth oeddet ti’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn y brentisiaeth, roeddwn yn y coleg yn gwneud fy astudiaethau Cyfryngau. O’n i ddim yn ymwybodol o’r cynllun prentisiaeth ar yr adeg honno, ac o’n i’n canolbwyntio ar gyrraedd fy nòd o gael swydd yn y cyfryngau, waeth pa mor hir fyddai’n cymryd.
Beth oedd yn apelio am wneud Prentisiaeth ar y Cyd?
Roeddwn i eisiau gwneud Prentisiaeth ar y Cyd gan mod i’n credu y byddai o fudd i mi o ran profiad a chael “troed yn y drws” yn y diwydiant. Roeddwn i’n meddwl, trwy ddysgu a gweithio ar yr un pryd, y byddai’n rhoi mwy o gyfle i mi gael swydd yn y diwydiant yn y dyfodol.
Beth oedd dy rôl ar dy leoliad cyntaf?
Rhedwr Llawr Stiwdio/OC oedd fy rôl ar fy lleoliad cyntaf.
Beth oedd dy waith o ddydd i ddydd?
Fel Rhedwr Llawr Stiwdio, roeddwn yn cefnogi fy nhîm o Gyfarwyddwyr Cynorthwyol. Roeddwn yn gwneud swyddi syml fel gosod y bwrdd te yn y boreau yn y stiwdio / ar leoliad; gwneud te a choffi ar gyfer cast a phenaethiaid adran yn ogystal â chysylltu â’r adran Lleoliadau ynglŷn â lle roedd popeth ar y lleoliad, er mwyn gallu gadel i’r criw wybod am y cyfleusterau; trosglwyddo gwybodaeth bwysig i benaethiaid adran, fel y Cyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol 1af; bod wrth law pan oedd y cast yn
cyrraedd yn y boreau; cael y cast drwy colur, cludo cast nôl a mlaen i’r set, â chwrdd â nhw ar ddiwedd y dydd.
Beth nes di fwynhau fwya’?
Beth nes i fwynhau fwyaf oedd cwrdd â chymaint o wahanol bobl oedd yn brofiadol yn y diwydiant, a chael perspective ehangach o’r ystod o swyddi, a’u gwahanol fanteision. Hefyd, y cyfle i sefydlu fy hun yn y swydd hon ac adeiladu cysylltiadau ar gyfer swyddi yn y dyfodol.
Beth sydd wedi bod yn heriol?
Y peth mwyaf heriol oedd addasu’n gyflym i wahanol leoliadau wrth ffilmio, gan mai fy nghyfrifoldeb i oedd rhoi gwybod i’r criw am y cyfleusterau pe baent yn gofyn cwestiwn imi.
Pa un peth allweddol wyt ti wedi’i ddysgu?
Un peth allweddol dwi wedi’i ddysgu yw peidio byth â bod ofn gofyn cwestiynau. Nid oes ots os chi ddim yn hyderus, neu os chi’n credu bydd pobol yn meddwl eich bod chi’n dwp am beidio â gwybod rhywbeth: gofynnwch gwestiynau bob amser gan y bydd o fudd mawr i chi yn y tymor hir ac mae’n dangos i bobl bod gennych chi wir ddiddordeb yn y gwaith ac eisiau llwyddo.
Wyt ti’n meddwl dy fod wedi tyfu o ganlyniad i’ch prentisiaeth?
Ydw, dwi’n bendant yn credu fy mod i wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth hon. Mae wedi fy siapio fel person o ran rhoi hwb i’m hyder a chaniatáu i mi wneud rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers pan oeddwn i’n ifanc. Dwi’n teimlo’n fwy sicr ar ôl gwneud fy nghynhyrchiad cyntaf oherwydd mod i’n gwybod nawr faint o ymdrech sy’n mynd i mewn i’r gwaith, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny lawer mwy.
A yw gwneud y brentisiaeth wedi newid dy farn am yr hyn wyt ti am wneud yn dy yrfa yn y dyfodol?
Na, mae fy marn am beth rwyf am wneud yn y dyfodol yn dal yr un fath. Dwi bob amser wedi bod eisiau bod yn Gyfarwyddwr neu’n rhan o’r tîm Cyfarwyddo Cynorthwyol, a diolch i’r cynllun prentisiaeth, rwyf wedi cael y cyfle hwnnw o’r diwedd ac ni allwn fod yn fwy diolchgar amdano.
Eisiau profiad go iawn o weithio tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau teledu a ffilm?
Barod i ennill cymhwyster Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol AC i gael cyflog wrth ddysgu?
Dyma’ch cyfle i ymuno â CRIW – cynllun Prentisiaeth newydd sbon y diwydiant.
Ceisiadau bellach ar agor.