CRIW 2022-2023: Cwrdd a Tereza

Mae Tereza wedi dechrau ar set yr wythnos hon! Dyma cyfweliad a fidio amdani:

1. Ble rydych chi wedi cael eich lleoli a beth ydych chi’n ei wneud?

Mae gen i leoliad gwaith ar gynhyrchiad teledu o’r enw ‘Wolf’. Rydw i wedi bod yn gweithio fel Rhedwr yn yr Adran Gynhyrchu.

2. Beth yw’r syndod mwyaf i chi ei gael hyd yn hyn?

Y syndod mwyaf yw’r nifer o fenywod sy’n gweithio ar y cynhyrchiad a hefyd y nifer o bobl o wledydd tramor – mae’n braf gwybod bod y cynhyrchiad rydych chi’n gweithio arni yn agored i amrywiaeth ac yn gwerthfawrogi pobl o gefndiroedd gwahanol.

3. Ydych chi’n gweithio gydag unrhyw brentisiaid presennol neu gyn-brentisiaid?

Ydw, rydw i wedi bod yn gweithio gyda Megan Sanders, a gwblhaodd ei phrentisiaeth y llynedd. Roedd hi’n ddigon ffodus i ddod ar y cynhyrchiad yma yn syth ar ôl diwedd ei phrentisiaeth sy’n gwneud i mi deimlo’n hyderus am ddod o hyd i swydd ar ôl gorffen hwn. Dechreuodd yma yn wreiddiol fel rhedwr cynhyrchu ac yn ddiweddar cafodd ddyrchafiad i fod yn Ysgrifennydd y Cynhyrchiad.

4. Beth yw’r rhan orau o’r profiad hyd yn hyn?

Cyfarfod â phobl newydd, dysgu am, ac archwilio Cymru bob dydd. Rydyn ni’n gweithio mewn fan gynhyrchu sy’n teithio i’r rhan fwyaf o’r lleoliadau saethu, felly dydych chi ddim yn sownd mewn swyddfa am y diwrnod cyfan ac rydych chi’n cael gweld harddwch Cymru. A bwyd hefyd! Mae’r arlwyo yn anhygoel, bron yn teimlo fel gŵyl fwyd.

5. Beth yw’r her fwyaf?

Yr her fwyaf (hyd yn hyn) yn bendant oedd newid teiar ar gar y cwmni a roddwyd i mi fel rhedwr. Dim cweit fy steil.