Eisiau profiad go iawn o weithio tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau teledu a ffilm?
Barod i ennill cymhwyster Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol AC i gael cyflog wrth ddysgu?
Dyma’ch cyfle i ymuno â CRIW – cynllun Prentisiaeth newydd sbon y diwydiant.
Mae Sgil Cymru yn hynod falch o gyhoeddi lansiad CRIW, rhaglen Prentisiaeth unigryw ar gyfer 2021, sy’n agored i’r rhai sy’n awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau ffilm a theledu sylweddol, tro yma yng ngogledd Cymru. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad ymarferol o weithio ar set, yma yng Nghymru.
Mwy o wybodaeth FAN HYN.