Mae Sgil Cymru yn hynod falch o gyhoeddi ein bod yn recriwtio unwaith eto ar gyfer CRIW, ein rhaglen Prentisiaeth unigryw sy’n agored i’r rhai sy’n awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau ffilm a theledu sylweddol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad ymarferol o weithio ar set, yma yng Nghymru.
Crëwyd y rhaglen Brentisiaeth hon i adlewyrchu natur ddeinamig, hyblyg gwaith llawrydd – curiad calon y diwydiant. Byddwch yn barod i dreulio blwyddyn wedi ymgolli mewn amrywiaeth o gynyrchiadau, cwrdd â phobl newydd a gweithio’n galed i gwblhau heriau newydd – gyda chyflog i’ch cefnogi wrth i chi ddysgu. CRIW yw eich cyfle chi i ddatblygu’r sgiliau ac ennill y profiad ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn.